Tosturia, nefol Dad,
Wrth lais pechadur clyw;
O'th fawr drugaredd gad
I wrthryfelwr fyw;
Yr un yw maddeu gyda thi
Bechodau mawr, a'r lleia' o ri'.
Os i'r trueni'r âf,
Mi'th gyfiawnhâf yn hyn,
Na's cefais, ac ni's câf,
Ond haeddais i fy hun;
Pechu a wnes yn ffiaidd gâs
Trwy dorri'th ddedf,
dirmygu'th ras.
Ymddiried byth yr wyf
(Ynglyn trueni trîst)
Yn haeddiant marwol glwy',
A gallu Iesu Grist;
Ac hefyd dysgwyl wnaf bob dydd
Fwynhau effeithiau bywiol ffydd.
[ Am hyn ymddiried 'rwyf
Yng ngallu Iesu Grist,
Ac yn ei farwol glwyf
I achub f'enaid trist;
Ac hefyd dysgwyl wnaf bob dydd
Fwynhau effeithiau bywiol ffydd.]
Tor fy nghadwynau cas,
Cyf 'rwydda 'nghamrau oll
Yn llwybrau pur dy ras,
Nad elwyf mwy ar goll:
O dysg ac arwain fi'n ddifeth
I wneud d'ewyllys yn mhob peth.
Diferion y Cyssegr 1804
[Mesur: 666688] |
Have mercy, heavenly Father,
To the voice of a sinner listen;
Of thy great mercy let
A rebel live;
The same is forgiving with thee
Great sins, and the least in number.
If to the wretchedness I go,
I will justify thee in this,
I only got, and shall only get,
What I myself deserve;
Sin I did detestably
Through breaking thy law,
scorning thy grace.
Trusting forever I am
(Concerning sad wretchedness)
In the merit of a mortal wound,
And the power of Jesus Christ;
And also expect I shall do every day
To enjoy the effects of a lively faith.
[ Therefore trusting I am
In the power of Jesus Christ,
And in his mortal wound
To save my sad soul;
And also expect I shall do every day
To enjoy the effects of a lively faith.]
Break my hated chains,
Train all my steps
In the pure paths of thy grace,
I shall no more go astray:
O teach and lead me unfailingly
To do thy will in every thing.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|